Diolch am deithio gyda Avanti West Coast
Avanti West Coast has introduced Welsh language announcements and information displays onboard its service to and from North Wales.
- Welsh language announcements and displays introduced onboard Avanti West Coast services to and from North Wales
- Avanti West Coast partner with the Welsh Language Commissioner to roll out to entire Super Voyager fleet
- New Hitachi trains due in 2022 will also have Welsh announcements
Avanti West Coast, with the support of the Welsh Language Commissioner, has introduced Welsh language announcements and information displays onboard its service to and from North Wales.
Working closely with the Commissioner, whose vision is a Wales where people can use the Welsh language in their everyday lives, Avanti West Coast has reaffirmed its commitment to the region with the last of the 20 modified trains entering service this week
The work was undertaken by Bombardier at their Central Rivers depot.
“This is a simple but important milestone, one that highlights our commitment to serving North Wales,” commented Tim Barton, Onboard Manager for Avanti West Coast. “With new trains due to arrive in 2022, additional services next year to Llandudno and plans to move into new offices in Holyhead, the investment is set to delivery real benefits for our customers. It’s an exciting time.”
Aled Roberts, The Welsh Language Commissioner said: “We welcome Avanti West Coast's commitment to the Welsh language. It is important that passengers in Wales hear Welsh, and realise that it is an official language in Wales. Not only is it an essential service for Welsh speakers, it also raises the awareness of our language among visitors.
“It is great that my officers had the opportunity to work with Avanti West Coast to provide this service. I look forward to seeing how the company will develop their Welsh language service further in the future.”
The news comes after Avanti West Coast reinstated its direct services from London to Holyhead and Wrexham earlier this month.
Ends
Contact Information
Notes to editors
Diolch am deithio gyda Avanti West Coast
- Cyflwyno cyhoeddiadau a sgriniau arddangos Cymraeg ar wasanaethau Avanti West Coast yn ôl ac ymlaen i Ogledd Cymru
- Partneriaeth rhwng Avanti West Coast a Chomisiynydd y Gymraeg wrth gyflwyno’r holl gerbydau Super Voyager i’r gwasanaeth
- Bydd cyhoeddiadau Cymraeg ar y trenau Hitachi newydd yn 2022 hefyd
Mae Avanti West Coast, gyda chymorth Comisiynydd y Gymraeg, wedi cyflwyno cyhoeddiadau a sgriniau gwybodaeth Cymraeg ar ei wasanaethau yn ôl ac ymlaen i Ogledd Cymru.
Mewn cydweithrediad agos â’r Comisiynydd, sydd â’r nod o sicrhau y gall pobl yng Nghymru ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd beunyddiol, mae Avanti West Coast wedi ategu ei ymrwymiad i’r rhanbarth drwy gyflwyno’r garfan olaf o’r 20 trên addasedig i’r gwasanaeth yr wythnos hon.
Cwblhawyd y gwaith gan Bombardier yn eu depo yn Central Rivers.
“Mae hwn yn garreg filltir syml ond hollbwysig, sy’n amlygu ein hymrwymiad i wasanaethau Gogledd Cymru,” meddai Tim Barton, Rheolwr Cerbydau Avanti West Coast. “Gyda threnau newydd ar fin cyrraedd yn 2022, gwasanaethau ychwanegol y flwyddyn nesaf i Landudno, a chynlluniau i symud i swyddfeydd newydd yng Nghaergybi, bydd y buddsoddiad yn siŵr o arwain at fanteision gwirioneddol i’n cwsmeriaid. Mae’n gyfnod cyffrous.”
Meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg: “Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad Avanti West Coast i’r Gymraeg. Mae’n bwysig fod teithwyr yng Nghymru yn clywed y Gymraeg ac yn sylweddoli ei bod hi’n iaith swyddogol. Nid yn unig mae’n wasanaeth hanfodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg, mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’n hiaith ymysg ymwelwyr.
“Rwyf yn falch fod swyddogion o fewn fy swyddfa wedi cael cyfle i gydweithio gyda Avanti West Coast i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Edrychaf ymlaen at weld y cwmni yn datblygu eu gwasanaeth Cymraeg ymhellach yn y dyfodol.”
Daw’r newyddion ar ôl i Avanti West Coast ailgychwyn ei wasanaethau uniongyrchol o Lundain i Gaergybi a Wrecsam yn gynharach yn y mis.
Y Diwedd